1450-1490

Robert Leiaf, Y Fernagl, 1450-1490.

Cywydd i’r Iesu a’r Fernagl a roddwyd iddo ar y ffordd i Galfaria

Nidâ n gaeth enaid yn gŵr

Os y fernagl sy’ farnwr.

Wylais i pan hu welais hwn,

Wyneb Iesu ’n ’i basiwn,

Wrth gyfarch y pum archoll,

Wyneb a dawn y byd oll.

O varn gwlad fernagl ydoedd,

Wyneb Duw yn y byd oedd.

Da fu, cyn gwaedu o’i gig,

Fwrw wyneb i feronig.

Gwander fai tri ac unDuw

pan na bai deg wyneb Duw.

Penna’ yw’r mab, poen yw’r modd,

Piau’r wyneb a’n prynodd;

Wyneb a ddug ŵyr Anna,

Wyneb a’n dwg i ben da.

Lluniodd yn well ei wyneb

No llun a wnaeth un llaw neb;

Cael wyneb, cyfiawndeb cu,

Sy’ rasol chwys yr Iesu.

Ar frenin y brenhinoedd

Y bu’r chwys, drwg ei barch oedd.

Y fernagl a fu arno

Y sy’ fawr, Iesu yw fo.

Duw gwyn, pes gwelid ganwaith,

Rhydd enaid a gaid bob gwaith.

Peris ar liain purwyn

Y f’ronig lwyd fernagl ynn.

Feronig oedd forwyn gall,

Herod yngod oedd angall.

Peiladus, un pŵl ydoedd,

Barnu yr Iesu yr oedd.

Oni ddug ef Adda gaeth

O’r farn hon i’r Frenhiniaeth?

Fo a wnâi a fynnai fo

I ddwyn ei bobl odd’ yno.

Mawr a wnaeth, ar ’y marn i,

Mab ac ôl ym mhob gweli.

Suddas a’i rhoes i oddef –

Soniwn am y sy’n y nef.

Iôn yn Israel a Nas’reth,

Ac yntau piau pob peth.

Os afal a roes Efa,

Iesu fab Duw sy’ fab da,

Gwae’r dyn, a gwewyr i’w dâl,

A rôi nef er un afal.

Ni wŷl fyth yn ei ôl fo

Ar y pren, ŵr a’i pryno.

Mae’r Mab a’r Tad mewn cadair,

Fo fu’r un mab ar fron Mair.

Iesu, yn ôl gras a nerth,

Wyn o’r wybr yw yr aberth.

Dyn oedd Dduw dan y ddaear,

Duw a dry’r gwyllt i dir gwâr.

Prynodd y pair ar unwaith,

Ar Dduw gwyn yr oedd y gwaith.

Brenin yn cael ei bryniad,

Barned Ef garbron ei Dad.

Nid brenin y gyfrinach

Ond a wnêl enaid yn iach.

Growndwal, garu yr unDuw,

Gwae’r dyn a ddigaro Duw.

Gair ni bydd a gŵr ni bu,

Gair nid oes gwir ond Iesu.

 

Traduzione in italiano di Manu

Dell’autore si sa molto poco. E’ stato in pellegrinaggio a Roma e ha visto la Veronica. (Cfr. J.B. Taylor, PhD 2014, Bangor University)

A Cywydd to Jesus and the Vernicle given to him on his way to Calvary

No man’s soul will be enslaved/If the Vernicle is Judge./I wept when I beheld this,/Jesus’ face in his passion,/As I hailed/greeted the five wounds,/A face with its reward for all the world./It was the Vernicle of a country’s judgement,/It was the face of God in the world./He allowed, graciously, before his flesh bled,/To cast his face to Veronica./Weak would the Three-in-one God be/Were God’s face not so fair./Prime is the Son, pain is his way,/His is the face that redeemed us;/The face which Anna’s grandson bore,/The face which will bring us to a good end./His face was better formed/Than any likeness made by hand;/To find a face, kind righteousness,/In Jesus’ gracious sweat./On the King of kings/Was this sweat, with little respect./The Vernicle laid upon him/It is great, it is Jesus./Blessed God, even if looked upon a hundredfold,/Every time – a soul is freed./He made/caused upon the pure white cloth/Of mournful (grey) Veronica, a Vernicle for us./Veronica was a wise maiden,/Strange Herod was unwise./Pilate was dull/stupid,/He judged Jesus./Did not he (Jesus) bring bound Adam/From this judgement to the kingdom?/He would do what he determined/To bring his people from there./Great was his work, in my estimation,/A Son with marks (wounds) in all his veins./Judas gave him to suffering –/Let us speak of what is in heaven./A Lord in Israel and Nazareth,/Yet he owns all things./If Eve gave an apple,/Jesus, God’s Son, is a good son,/Woe to the man, and pain be his wage,/Who would give Heaven for the sake of an apple./He will never look back, he who sees/On the tree, the man who redeems him./The Son and the Father sit enthroned,/He, the same son who was on Mary’s breast./Blessed Jesus, by grace and might,/From heaven is the sacrifice./God was man under the earth,/God will turn wilderness to good (civilised) land./He redeemed the cauldron(?) at once,/The work was laid on the blessed God./The King receives his ransom,/May He be judged before his Father./Not a King is the secret/But one who heals the soul./Our foundation, to love the one-God,/Woe to the man who loves not God./There will never be such a word and such a man has never been,/No true word but Jesus.

Traduzione inglese di Fr. John Walters

Segnalata da Manu

 


GUTE-URLS

Wordpress is loading infos from clicart

Please wait for API server guteurls.de to collect data from
www.clicart.it/giacomo/Displa...